Lleoliad:
Video
conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 22
Mai 2023
Amser:
13.30 -
14.25
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13336
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
2.1 SL(6)355 – Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
3.1 SL(6)356 – Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.2 SL(6)358 – Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7
4.1 SL(6)357 – Y cod apelau derbyn i ysgolion
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
5 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
5.1 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Geisiadau, Gwrthwynebiadau ac Ymchwiliadau) (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5.3 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.4 Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Gohebiaeth at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr y mae wedi’i anfon at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
6.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog a chytunwyd y byddai'n gwneud ei orau i ystyried y Rheoliadau yn gynnar.
6.3 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Llywydd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes.
6.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio: Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Hefyd, nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes.
9 Ymchwiliad i lywodraethu o ran y DU a'r UE - ystyried y cylch gorchwyl
Trafododd y Pwyllgor ei gylch gorchwyl ar gyfer ei ymchwiliad i lywodraethu o ran y DU a’r UE a chytunodd arno.
Made Negative Resolution Instruments
Made Negative Resolution Instruments
Affirmative Resolution Instruments